Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Hydref 2022
Amser:
09.03 -
10.14
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu dod â’r egwyl cyn y cyfnod pleidleisio i ben, gan ddechrau o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Gofynnodd i Reolwyr Busnes atgoffa Aelodau eu grwpiau mai eu cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau eu bod yn bresennol ac yn barod i bleidleisio cyn dechrau'r cyfnod pleidleisio, a nododd y gall hyn fod yn gynharach na'r amseru dangosol ar yr agenda.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 18 Hydref –
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg: Model Addysg Gyflenwi (30 munud) Tynnwyd yn ôl
Dydd Mawrth 25 Hydref –
· Dadl: Adroddiad Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud) wedi’i symud o 8 Tachwedd
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022 –
Cafodd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl frys ar ddeiseb P-06-1294: Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl, a gafodd 14,106 o lofnodion,a chytunwyd i drefnu dadl 30 munud ddydd Mercher 19 Hydref.
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb a gafwyd gan y Pwyllgor a chytunodd na fyddai angen addasu'r amserlen bresennol ar gyfer craffu ar y Bil.
4.2 Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - Cyfnod 2
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar gyfer trafodion Cyfnod 2, pe bai'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.
4.3 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad dydd Llun 7 Tachwedd 2022, er mwyn galluogi'r rheoliadau hyn i gael eu hystyried gan y Senedd ddydd Mawrth 8 Tachwedd.
4.4 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 1 Rhagfyr;
5 Papur i'w nodi
5.1 Llythyr gan Oxfam Cymru a WEN Cymru ynghylch Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.